28/12/2015

Chwilio am her newydd yn 2016?



Chwilio am her newydd yn 2016... ond ddim cweit yn barod ar gyfer y zip wire?

Beth am ymuno mewn blwyddyn o Ddarllen Beiddgar gyda llyfrgelloedd Gogledd Cymru?

Bob mis byddwn yn datgelu dau o'r dau ddwsin o lyfrau sydd wedi eu dethol, un Cymraeg ac un Saesneg, i greu calendr o ddarllen gwefreiddiol.

Bydd llyfrgellwyr ar draws Gogledd Cymru yn dewis llyfrau i'ch herio chi i ddarllen rhywbeth gwahanol. Beth bynnag yw eich dewis arferol, fe fydd rhywbeth yma i'ch diddori a'ch herio, ac i gyfoethogi eich profiad darllen - antur go iawn yn eich cadair freichiau!

Bydd cyfle hefyd i chi rannu eich profiadau a'ch barn am y llyfrau ar y blog hwn, ar Trydar a Facebook (#DarllenBeiddgar), neu trwy'r cardiau post trawiadol sydd ar gael o lyfrgelloedd.

Felly ydych chi'n barod amdani? Byddwn yn datgelu'r llyfr cyntaf am hanner dydd Ddydd Calan.

No comments:

Post a Comment