01/02/2016

Llyfr y Mis: Chwefror

Gyrru drwy Storom
 


Ychydig iawn sydd wedi cael ei ysgrifennu yn Gymraeg am salwch meddwl er bod 1 o bob 4 ohonom yn dioddef o salwch meddwl ar ryw gyfnod yn ystod ein bywyd.  Yn y gyfrol arloesol hon cawn hanes profiadau rhai sydd wedi cael eu heffeithio ganddo, trwy gyfrwng eu cerddi, eu llythyrau, eu dyddiaduron a'u hysgrifau. Trafodir y salwch yn gwbl onest, ac er bod y profiadau'n ddirdynnol, gwelir bod gwella a bod yn obeithiol am y dyfodol.

Ymhlith y cyfranwyr, mae Angharad Gwyn, Angharad Tomos, Alaw Griffiths, Bethan Jenkins, Caryl Lewis, Dr Mair Edwards, Geraint Hardy, Hywel Griffiths, Iwan Rhys, Llyr Huws Gruffydd a Malan Wilkinsôn.

Mae angen trafod salwch meddwl yn agored, yn sensitif ac yn bositif, a hynny, yn Gymraeg yn ôl Alaw Griffiths, golygydd y gyfrol.  

Meddai Alaw, “Cefais gyfres o sesiynau therapi siarad pan oedd fy mabi tua 9 mis oed, trwy'r Gwasanaeth Iechyd. Roedd rhaid bodloni ar wasanaeth Saesneg, neu ddim o gwbl - doedd dim nerth gennyf i wrthod unrhyw fath o wasanaeth a fyddai'n gymorth i mi wella. Wrth ddod yn gryfach dechreuais bori'r we a siopau llyfrau ond methais ddod o hyd i unrhyw wefannau neu lyfrau gyda gwybodaeth digonol am salwch meddwl yn y Gymraeg”.

Mae gŵr Alaw, y bardd Hywel Griffiths, wedi cyfrannu at y gyfrol ond nid cyfrol o gyfraniadau gan bobl sydd wedi dioddef salwch meddwl yn unig yw hon - ceir cyfraniadau gan eu teuluoedd hefyd. O ystyried cynifer o bobl sydd yn dioddef a’n bod yn debygol iawn o adnabod rhywun sy'n dioddef rhyw dro, mae clywed profiadau felly yn bwysig iawn hefyd.

Meddai Hywel Griffiths, “Mae'r gyfrol yn brawf pendant bod modd gwella o salwch meddwl a gobeithio bod hynny yn rhoi gobaith i bobl. Hefyd, gobeithio ei fod yn dangos bod ysgrifennu am brofiadau yn gallu helpu ac yn rhywbeth y gall unrhyw un ei wneud”.

 


No comments:

Post a Comment