06/03/2016

Ebargofiant gan Jerry Hunter



 
"Pan glywais am nofel newydd Jerry Hunter, ofnais y gwaethaf. Ai jôc oedd hon hefyd, ynteu ymgais i greu rhyw fath ar grach lenyddiaeth? Wel na, dim o'r fath beth. Mae hi'n wahanol, ydi. Ond mae hi hefyd yn gwneud synnwyr o ran syniad.

Mae'r prif gymeriad, Ed, yn byw rywbryd yn y dyfodol. Ac yn dilyn chwalfa ecolegol (posibilrwydd sy'n erchyll o gredadwy), mae'n gorfod dysgu byw o'r newydd. Ac yn union fel y dyn cyntefig gynt, mae e'n mynd ati i ddechrau ysgrifennu...
Mae'r syniad yn un hynod wreiddiol. Bûm yn dyfalu droeon sut deimlad fu e i'r dyn cyntaf osod marc bwriadol ar garreg, darn o bren neu dabled o glai. Mae un marc yn troi'n ddau, a'r rheiny'n farciau gwahanol nes llunio gwyddor a geirfa. Y gallu i ysgrifennu, mae'n rhaid gen i, oedd darganfyddiad pwysicaf dynoliaeth.
Am y deg neu'r ugain tudalen agoriadol cefais gryn drafferth i ddilyn yr orgraff. Ond yn araf fe ddisgynnodd y llythrennau i'w lle gan ddarparu profiad unigryw. Mae Ebargofiant yn llawer haws i'w deall na Finnegan's Wake. Ac yn llawer ysgafnach i'w chario. Ac yn wahanol i Finnegan's Wake – ac Ulysses o ran hynny – fe lwyddais i orffen hon."
Lyn Ebenezer, Gwales
 
"Wy yw'r nofel hon, gyda phlisgyn trwchus... o ddyfalbarhau gellid cael mynediad at y melynwy hynod flasus y tu mewn. Dydw i ddim am ddweud gormod am y melyn wy sydd y tu mewn i'r plisgyn - y byd, y plot, y cymeriadau, a'r themâu.
Digon yw dweud fy mod i'n torri bol eisiau trafod y cyfan gyda rhywun arall sydd wedi profi'r cyfan! Mae yna sawl dirgelwch o fewn y plot i gnoi cil arnynt, ac rwy'n credu y bydd y themâu canolog yn destun dehongli a thrafod am amser hir iawn.
Dyma nofel sydd wedi rhoi archwaeth newydd i mi am lenyddiaeth Gymraeg. Nofel hollol unigryw, na fyddai wedi gallu bodoli mewn unrhyw iaith arall."
Ifan Morgan Jones


Y llyfr aeth bron i ebargofiant
Golwg360 3 Ebrill 2104
Bu bron i nofel newydd Jerry Hunter beidio â gweld golau dydd wrth i’r awdur wrthod cais y Cyngor Llyfrau i addasu’i arddull arbrofol o ysgrifennu.

Mae’r stori sydd yn cael ei hadrodd yn ‘Ebargofiant’ yn dychmygu’n byd yn y dyfodol yn dilyn effeithiau newid hinsawdd, ble mae’r gymdeithas wedi mynd yn gyntefig ac anllythrennog.

Ond elfen fwyaf arbrofol y nofel yw’r iaith y mae Hunter yn ei ddefnyddio, wrth i’r stori agor gyda’r geiriau: “Dwin biw miwn twł. Nid vi dir 1ig1 sin biw miwn twł nd vi dir 1ig1 sin biwn y twł sin gartra i vi.”

Ac fe gyfaddefodd yr awdur mai dim ond ei ystyfnigrwydd ef a arweiniodd at weld y nofel yn cael ei chyhoeddi ar ei ffurf wreiddiol.

“Roedd y Lolfa’n hapus iawn i’w gymryd ymlaen, ond doedd o ddim mor hawdd i sicrhau cefnogaeth gan y Cyngor Llyfrau – mi wnaethon nhw yn y diwedd, chwarae teg iddyn nhw,” esboniodd Jerry Hunter wrth Golwg.

“Ond ar y dechrau doedden nhw ddim mor sicr amdano fo. Roedd yna ryw awgrym yn dod y dylwn i newid yr iaith, a’i wneud yn haws i’w ddarllen – ac fe wnes i wrthod.

“Wedyn mae’n braf ei fod yn dod allan yn y diwedd … mae’n gofeb i styfnigrwydd awdur!”

No comments:

Post a Comment